Recriwtio am Ddisgybl
Mae Civitas Law yn chwilio am ddisgybl fargyfreithwyr i ymuno a'n Siambrau ym Mis Medi 2023 ag Ebrill 2024..
Civitas Law ys siambrau cyfraith sifil a chyhoeddus Cymru. Mae aelodau siambrau yn ymarfer mewn ystod o feysydd arbenigol o'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys Anaf Personol, Esgeulustod Clinigol, Cynllunio, Tai, Cyflogaeth, Cyfraith Rheoleiddio, Cwmni, Masnachol ac Ansolfedd, Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd, Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Phrofiant.
Mae’r Siambrau wedi’u staffio gan dîm clercio arbenigol; ac mae ei bargyfreithwyr yn defnyddio trefniadau gweithio hyblyg. Civitas Law oedd yr amgylchedd gwaith rhythiol cyntaf yng Nghymru. Mae gan bob aelod o’r siambrau, gan gynnwys disgyblion, fynediad i amgylchedd gwaith yr 21ain ganrif gan gynnwys adnoddau llyfrgell ar-lein a dulliau gweithio digidol.
Nod y ddisgyblaeth yw rhoi profiad uniongyrchol i bob disgybl o waith a wneir mewn siambrau h.y.: Siawnsri, cyfraith busnes a defnyddwyr, ADR a chyflafareddu, Cyflogaeth, Anafiadau Personol ac esgeulustod clinigol, Cyfraith Gyhoeddus, gwaith cynllunio a rheoleiddio
Y patrwm gwaith safonol yw dau gyfnod o chwe mis. Mae pob disgybl o dan arolygaeth un aelod o siambarau trwy gydol pob cyfnod o chwe mis. Os bydd disgybl yn nodi y byddai'n well ganddo/ganddi/ganddyn gael profiad o waith penodol ond nid eraill, gellir newid strwythur y tymor prawf yn unol â hynny ar ôl trafodaeth rhwng y disgybl a'r Pennaeth Disgyblaeth.
Rydym am recriwtio ymgeiswyr eithriadol sy'n gallu dangos cymhwysedd lefel uchel yn y meysydd canlynol: gallu deallusol; ymwybyddiaeth o'r farchnad; y gallu i weithio dan bwysau; sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig; sgiliau eiriolaeth lafar; cymhelliad; ffocws cwsmer; a phenderfyniad. Ceisir hefyd fwriad i ddilyn ymarfer gan Civitas Law.
Ar hyn o bryd mae pob tymor prawf yn cael ei gyllido yn y swm o £22,000 y flwyddyn, ar ffurf grant o £10,000, yn daladwy yn ystod y chwe mis cyntaf ac enillion gwarantedig o £12,000 yn yr ail chwe mis. Mae gan Siambrau system hyblyg ar waith o sicrhau bod arian ar gael o'r enillion gwarantedig i ddisgyblion yn ystod eu cyfnod o chwe mis fel bod anawsterau llif arian posibl yn cael eu bodloni. Bydd treuliau rhesymol a dynnir gan ddisgybl wrth gysgodi eu goruchwyliwr disgybl neu unrhyw aelod arall o'r Siambrau (gan gynnwys costau teithio) yn cael eu talu gan y Siambrau.
Mae Siambrau wedi ymrwymo i gynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Gellir gwneud ceisiadau drwy'r Porth Disgyblion yma:
Civitas Law – 12 months– September 2023 | Jobs and careers with Bar Council (pupillagegateway.com)
Civitas Law – 12 months – April 2024 | Jobs and careers with Bar Council (pupillagegateway.com)
Dyddiad cau gwneud cais yw'r 8fed o Chwefror 2023.
Am fwy o fanylion neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â pupillage@civitaslaw.com