+44 (0)2920 375020
clerks@civitaslaw.com
Twitter icon
LinkedIn icon
Facebook icon

Alys Williams ac Owain Rhys James yn ymddangos mewn achos tystysgrif marwolaeth ddwyieithog

Mae aelodau o Civitas wedi gweithredu ar ran dau Uwch Grwner mewn achos unigryw lle ceisiwyd herio penderfyniad Cofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr i beidio â diwygio'r gofrestr marwolaethau yn dilyn cwest drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyflwynodd yr Hawlwyr eu hawliad am adolygiad barnwrol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Mae teulu'r Ymadawedig (a oedd yn barti â diddordeb yn yr hawliad am adolygiad barnwrol ac a gefnogodd cais yr Hawlwyr) bellach yn ceisio newid y gyfraith i ehangu'r hawl i gofrestru marwolaeth yn ddwyieithog. Mae’r ymgyrch hynny wedi denu sylw’r cyfryngau cenedlaethol: 'Gobaith' yn y frwydr i dderbyn tystysgrifau marwolaeth Cymraeg | NS4C | Newyddion S4C; Derbyn tystysgrifau cofrestru Cymraeg yn 'frwydr am gyfiawnder' - BBC Cymru Fyw; Cardiff woman calls for death certificates to be issued in Welsh - BBC News. Mae hynny wedi arwain at eu AS yn cyflwyno'r Bil Cofrestru Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau (Darpariaeth Iaith Gymraeg) yn Senedd San Steffan.

 

Cododd yr achos faterion newydd o ddehongli’r rheoliadau ynghyd â dadleuon ynghylch hawliau ieithyddol, a oedd Erthygl 8 o'r ECHR yn berthnasol, a beth oedd yn gyfystyr â thorri'r hawl i gymryd rhan mewn achosion drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Ymddangosodd Alys Williams, drwy gyfrwng y Gymraeg, gerbron Mrs Ustus Farbey yn y gwrandawiad adnewyddu ar lafar.

 

Mae Owain Rhys James wedi gweithredu ar ran yr Hawlwyr drwy gydol y broses, gan gynghori a drafftio pob plediad a datganiad yn ddwyieithog. Mae'n parhau i weithredu ar ran Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru mewn achosion cysylltiedig.

 

Mae gan Owain ac Alys bractis ddwyieithog gan gynghori ac ymddangos gerbron y Llysoedd a'r Tribiwnlysoedd drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent dau wedi cynghori cleientiaid yn y sector gyhoeddus a'r sector preifat ar ystod o faterion sy'n ymwneud â hawliau iaith a chymhwyso Safonau'r Iaith Gymraeg. Am fwy o fanylion, cysylltwch â'u clerciau.

 

R ((1)Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru (2) Uwch Grwner Canol De Cymru) v Y Cofrestrydd Cyffredinol – Farbey J

Cododd yr hawliad yn dilyn cwest a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg gan yr Hawlydd Cyntaf, yn eistedd yn ardal grwnerol yr Ail Hawlydd. Yn dilyn y cwest, cofrestrwyd y farwolaeth drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Ceisiodd yr Uwch Grwneriaid ganiatâd i gael adolygiad barnwrol o benderfyniad y Cofrestrydd Cyffredinol nad oedd ganddo unrhyw bŵer i ddiwygio na ailgofrestru'r farwolaeth fel y byddai yna gofnod dwyieithog.

Roedd teulu'r Ymadawedig yn bartïon â diddordeb yn yr hawliad, ac fe'i cefnogasant.

Ynghyd â phenderfynu ar nifer o faterion gweithdrefnol, gwrthododd y Mrs Ustus Farbey ganiatâd i gyflwyno hawliad am adolygiad barnwrol mewn gwrandawiad, ar ôl clywed gan gwnselr y ddwy barti, mewn dyfarniad manwl.

O ran Rheoliad 53 o Reoliadau Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1987, canfu'r barnwr fod y ddarpariaeth yn pennu'r dyddiad y cwblhawyd cofnod fel bod yn rhaid i unrhyw gamgymeriad honedig ddod o fewn y drefn statudol i roi pŵer i ddiwygio'r gofrestr.

Gwrthododd y Farbey U y ddadl mai darpariaeth dybio (deeming provision) oedd y ddarpariaeth honno y gellid ei gwrthbrofi trwy ddarparu tystiolaeth: yma tystiolaeth nad oedd y Crwner wedi darparu'r holl ddogfennau sy'n ofynnol i gofrestru'r farwolaeth i'r Cofrestrydd.

O ran yr ail sail, penderfynodd y Barnwr nad oedd unrhyw bŵer o dan reoliad 45 o Reoliadau 1987 i grwner ailgofrestru marwolaeth. Roedd y ddarpariaeth honno wedi'i chyfyngu i sefyllfaoedd lle'r oedd crwner yn ceisio cofrestru marwolaeth ar ôl i farwolaeth eisoes gael ei chofrestru gan hysbysydd.

Roedd Sail 3 yn ymwneud â'r drefn statudol ar gyfer diwygio gwallau clerigol. Er gwaethaf y ffaith bod y sail wedi dod yn academaidd yn sgil consesiwn a wnaed yn ymateb cyn-achos y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, daeth y Barnwr i'r casgliad, yn groes i ddadl yr Hawlwyr, nad oedd yn ofynnol i'r Llys fabwysiadu offer deongliadol adran 3 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Penderfynodd y Barnwr nad oedd Erthygl 8 wedi'i thorri oherwydd bod y cynllun statudol yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cywiro gwallau a oedd yn gymesur a bod gan y teulu fynediad at dystysgrif marwolaeth, er yn Saesneg yn unig. Roedd y cynllun hwnnw'n gydnaws â hawliau Erthygl 8 y teulu, penderfynodd y Barnwr.

Yn olaf, canfu'r Barnwr nad oedd unrhyw dorri adran 22 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Lle cynhaliwyd y cwest drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd cofnod y cwest yn y Gymraeg, ond roedd y cofnod yn y gofrestr yn Saesneg yn unig, nid oedd modd dadlau bod yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr achos crwnerol eu hunain wedi'i tharfu neu ei negyddu.